Y dydd y cwrddais â ti
Cymraeg
Y dydd y cwrddais â ti
JOSEPHINE POUPILOU
Cyfieithydd: Reece Lloyd
Cyhoeddwr: Tektime
Victory Storm Curator
Nid oedd Lucille ond pedwar oed ar bymtheg, pan y’i gyrodd ei mam o’i chartref.
Ar ei phen ei hun, aethai Lucille i fyw yn yr ystâd enfawr yr oedd hi wedi’i hetifeddu o’i nain.
Aeth wyth mlynedd heibio ac yn sydyn, geilw ei llyschwaer Nicola, na allodd hi erioed ddioddef, yn gofyn iddi fwrw Nadolig efo’u cilydd a pheidio â dal dig.
Cytuna Lucille ag hyn a phan fydd hi’n mynd i ginio ar noswyl Nadolig, bydd hi’n cwrdd â’r gŵr dyfodol Nicole, Xavier Blanc.
Er mawr ryfeddod iddi, mae hi’n darganfod wedi cwrdd ag ef pum mlynedd yn ôl. Bydd y gorffennol hwnnw ar y cyd yn creu ar unwaith rhyw gytgord rhwng y ddau berson ifanc, ond ni fwriada Nicole o gwbl derbyn ymyrraeth Lucille i mewn i’w bywyd ei hun.
Wedyn, pam wahadodd Nicole hi i’r dathliad? A ydy Nicole yn wir am ail-ddechrau neu a wnaeth Lucille y symudiad hwn â chymhellion cudd?
Darllenwch y rhagolwg
1
“Fedra i ddim yn ei wneud!” sibrwdais yn wan ac heb egni tra oeddwn yn edrych ar fy nghorff esgyrnog yn y drych. Yn y cyfamser oedd Yvette yn ceisio cymer gofal o’m gwallt drwy ei steilio i mewn i gocyn perffaith a Margot yn brysur wrth geisio cuddio’r bagiau dan fy llygaid. Ymddangosodd nad oeddent am fy ngadael.
“Paid â lolian! Mi fyddi di’n ei neud yn wych. Dydy hwn ddim ond yn ginio!” ebe Margot yr oedd yn ceisio codi’m calon tra oedd yn rhoi’r drydedd haen o concealer dan fy llygaid.
“Cinio efo fy Mam a’i theulu newydd dydw i ddim wedi'i weld er chwe blynedd yn ôl,” atgoffais hi tra oeddwn yn ceisio arafu’r pryder yr oedd yn gwasgu fy mola.
“Dyma pam fod rhaid ichdi ddŵad iddo! Mae rhaid ichdi ddangos iddyn nhw bopeth maen nhw ’di colli yn ystod yr amser hwnnw i gyd ac hefyd doedd eu gadael ddim yn dy ddistrywio’n hollol! Ti ’di dŵad allan ohono fo yn fuddugol … Fel arall, cryfach nag erioed wyt ti,” ceisiodd Yvette f’argyhoeddi.
“Buddugol ydw i? Ti ’di fy ngweld, ynte?!”
“Do, do! Brydferth wyt ti!” atebodd Yvette a gwên enfawr.
“Nid y fi! Dwi wedi blino, dydw i ddim yn cysgu’n fawr, does dim pres gen i, dwi wastad yn allan o waith ac mae gen i don o ddyledion a phryderau ar gyfrif iechyd Chucky”.
“Paid â bod yn siarad felly! Dylet ti sbïo ar bethau o safbwynt gwahanol!”
“Sut?” gofynnais yn sur.
“Yn un peth, ti’n brydferth. Ti ’di colli ychydig o bwysau, hefyd”.
“Sy’n ddiolch i golig sy ’di golygu roedd rhaid imi ymprydio am bron i wythnos. Dydw i ddim yn teimlo’n ffit o hyd rŵan,” cofiais iddynt yn meddwl eto am y tro y buaswn yn sâl hyd at bum niwrnod ynghynt.
“Ond mae’r colig hwnna wedi neud ichdi golli digon o bwys fel ichdi ffitio i mewn i’r wisg bensel anhygoel yma gan Chanel,” ychwanegodd Margot.
“Sy’n wisg na allwn i hyd yn oed ei fforddio gan fy mod i’n beidio â gwybod at bwy i droi,” gwrthbwysais yn ddigalon tra oeddwn yn llithro fy mysedd yn crynu ar y ffrog emrallt anhygoel honno a’i meddodd Yvette.
“Dydy hynna ddim yn bwysig. Yr unig beth sy rŵan yw bod y wisg honna’n rhoi golwg chic yn enfawr ac yn dŵad â’th lygaid a’th wedd golau allan. Hefyd, ti wastad wedi deud dy hun fyddet ti byth isio gadael i’th fam neu ─ yn waeth o hyd ─ dy lyschwaer. Faint bynnag o anhawster ariannol rwyt i mewn, yn sicr fydd neb yn dy gamgymryd am hogan druan ac anffodus efo’r ffrog honna a’r Louboutins sy gan Margot. Heb sôn, hefyd, am dy fod yn byw mewn palas go iawn wedi’i syrowndio gan hectarau o erddi”.
Bechod fod y gwirionedd yn holl wahanol, hoffaswn ymateb iddi. Blwyddyn yn ôl oeddwn wedi gwagio etifeddiant fy nain oherwydd y gwaith cynnal parhaol yr oedd angen ar y fila enfawr honno. Cawswn gynigion ar ei gwerth, ond yr oedd y syniad o ymwahanu fy hunan â’r un peth wedi f’ymuno â’r unig berson y dwliasai arnaf yn dorcalonnus ac yn annychmygol.
Cyn ei marwolaeth, buasai fy nain am adael imi ei hystâd wledig oddi wrth hynafiad o deulu brenhinol. Yr oedd yn dwlu ar yr eiddo hwnnw ac ers blynyddoedd wnaethai bopeth er mwyn ei hadfer i’w hen ogoniant, ond nid oedd y gweithiau byth yn gorffen. Pob flwyddyn oedd anhawster newydd i’w ddatrys, hefyd.
Daethai’r arian i gyd i’w ben rŵan. Yr oedd dod o hyd i swydd yn anos o hyd gan yr oeddwn yn brwydro â chadw sydd am fwy nag ychydig fisoedd.
“Ti’n secretary i ddeintydd rŵan, hefyd!” parhaodd Yvette yn ceisio gogoneddu’r swydd olaf honno yr oeddwn wedi dod o hyd iddi. Nid oeddwn innau’n dechrau arni ond ddeuddydd yn ôl.
“Yndw, dach chi’n gywir. Ddylwn i ddim gael fy nigalonni. Dynes o ddau deg saith oed ydw i rŵan sy’n annibynnol ac sy swydd anhygoel a thŷ ganddi hi. Basai tŷ’n neud i unrhyw berson fod yn genfigennus a ─ be’ sy’n bwysicach o hyd ─ mae gen i ddwy ffrindes fy mod i’n eu caru ac sy’n fy lyfio fi”.
“Mi fyddwn ni wastad yma ichdi, Lucille!” codais Yvette fy nghalon tra oedd yn fy nghofleidio’n galed, hyn y gwnaeth Margot yn ddiaros ar ei hôl.
“Ac hefyd mae gen ti dorf o hynciau sy’n barod i d’amddiffyn ac sy’n ciwio tu ôl i’r drws ’ma yn aros am neidio arna ti!” ebe Margot yn chwerthin.
A dweud y gwir, clywid amryw o furmuron isel y tu ôl i’r drws hwnnw.
Mewn eiliad, agorais ef er mwyn caniatáu fy llwyth bach a blewog yr oedd yn llenwi bob dydd fy mywyd efo hapusrwydd.
“Aramis! Byron! Lupin ... a Chucky!” ebychais yn llawen tra oedd fy nghyfeillesau’n sefyll o’m blaen er mwyn rhwystro’r cŵn rhag neidio arnaf a difetha fy nillad wrthi.
“Ô, Aramis! Mae’r wisg honno yn costio ceiniog-a-dimai! Gwae ti os ti’n dŵad yn agos iddi!” dywedodd Yvette y drefn wrtho. Yr oedd yn ceisio hel yr hen gi defaid Maremma-Abruzzese ymaith. Efe oedd yn mor fyddar, ni chlywodd ddim.
“A chdithau, Byron. Paid â rhoi’r llygaid hynna imi; fydd hyn ddim yn gweithio!” dywedodd Margot ar ei hôl, yn plygu er mwyn cofleidio’r hen gi. Yr oedd yn llusgo ei goesau ôl â chert fach yn ei helpu; cefnogodd hon ef, ond nadodd iddo wneud symudiadau mawr.
Lupin yn unig na fethodd â dod rhyngom er gwaethaf ei hercian. Nad oedd ond un o’i balfau blaen ganddo.
“Margot, mae Lupin wrth ei fodd efo’r foundation hwnna,” chwysais gan sylwi tra oedd Lupin yn llyfu fy wyneb i gyd ei hun.
“Lupin, na! Mi wnes i gymryd awr i’w goluro! Bacha hi o ’ma, cenau bach!” gwrthdarodd Margot ef; yn y cyfamser, gadawsai i Chucky dynnu ei sylw ei hun. Yr oedd o hyd yn wan oherwydd ei froncitis a’i gyhangasai wedi chwarae yn yr eira sawl dyddiau yn ôl. Pedwar oed ar ddeg oedd ef a daliai i fynd yn sâl yn amlach. Hefyd, ar ôl y farwolaeth Cabret, yr oedd yn chwarae efo fe, ymddangosodd yr oedd yn gadael fwyfwy i’w hun heneiddio.
Cyn i Aaron farw, yr oedd yn anodd iawn imi orfod dioddef y farwolaeth Cabret hefyd, dau fis yn ôl. Nid oedd diwrnod nad oeddwn yn chwilio am y ddau gi mawr du a gwyn hyn, wastad yn serchus ac â chwant bwyd arnynt.
“Fe fyddi di’n dal i ddioddef os na fyddi di ddim yn penderfynu ar gi ifanc ac iach,” ceisiasai Marie i ddweud wrthyf unwaith. Hyhi oedd yn rheolwraig y cytiau cŵn yn hyn yr oeddwn fel arfer yn bwrw Nadolig er mwyn cymryd ci i mewn er pan adawyd fi ar fy mhen fy hun. Yn anffodus er hynny, yr oeddwn wastad yn dewis yr hŷn a’r fwyaf anffodus acw mewn gobaith y byddai’r terfynu ei ddyddiau yn y modd gorau y gallai.
Bob amser, gofynnais “y ci dydy neb isio”, i hwn y rhoddasid y gorau, wedi cael ei daflu allan fel ysbwriel gan yr oedd yn rhy hen neu sâl fel iddo gael serch o hyd o’r un teulu yr oedd ganddo.
Ni chymerasai hyd yn oed eiliad i ddeall fy rhesymau a’r ffaith nad oeddwn yn gysurus wedi cael fy mwrw heibio er mwyn creu ystafell i ddieithriaid. Mewn amrantiad, hynny oedd yn cymryd serch fy rhiant olaf yn byw imi a fy mhethau i gyd yr oedd rhaid imi, yn sydyn, rannu efo llyschwaer ymwythiol ac ormesol.
Ond yn anffodus, y bai yn eu llygaid oedd bob amser arnaf i. Myfi oedd y bigog, yn ddig wrth y byd, yr hunanol nad oedd am bethau ond i’w hun.
Tery’r meddylion hyn fi fel paffio i’r bola.
Aethai wyth blynedd heibio ers hynny. Ar ôl blwyddyn gyntaf yn ceisio gwneud heddwch, deallais yr oedd ar ben. Ni allwn byth gael fy nheulu yn ôl.
Wyth blynedd yr aethai heibio ers y tro olaf a welais a chlywais oddi wrth fy mam, ei ŵr Hubert neu Nicole.
Bu’n saith blynedd heb unrhyw gwrdd byrlymus neu achlysurol. Yr oedd hynny’n profi ba mor fawr oedd Paris ac oeddwn o’u gwirionedd.
Beth bynnag, ar ôl yr amser hwn i gyd, yr oeddwn acw o blaen y drych yn ymbaratoi i ddathlu noswyl Nadolig efo nhw ar ôl y galwad Nicole nad oeddid yn ei ddisgwyl. Yn hwn, dywedodd wrthyf yr oedd am beidio â dal dig oherwydd y gorffennol ac hefyd am ailymuno’r teulu.
Credodd Margot mai’r union alwad a wnaeth imi deimlo mor ddrwg, imi ddioddef colig mor boenus a pharhaodd am ddyddiau a dyddiau.
“Cer i’w taro ar eu talcen!” dymunodd Margot ac Yvette imi wneud. Aethant efo mi ar hyd rhodfa’r fila a’i chliraswn o eira nes i’m hen Peugeot bach gyrraedd.